UNITED KINGDOM / AGILITYPR.NEWS / July 20, 2021 / A research ship which has played a part in providing us with sustainable seafood and has changed our understanding of marine sciences, celebrates 20 years of service to science and education this month.
Based at Bangor University, the research vessel, the Prince Madog is a purpose-built, flexible multi-purpose research platform for conducting science along the British coastline and in the Irish or Celtic Sea. It is used for research and to educate and train future marine scientists at Bangor University.
The Prince Madog is the UK’s only fully seagoing research vessel focussing on the coastal seas on the vital ‘coastal’ seas. These shallower seas up to the continental shelf, are the most influenced by human activity- and are also the most important to us, as a resource for fishing and renewable energy.
The ship at Bangor University has played a crucial role in educating new generations or marine scientists of all disciplines.
The ship is the second to bear the name at the University’s School of Ocean Sciences. Over 50 years old, the School of Ocean Sciences is the only such School in the UK, and one of the largest in Europe.
Bangor University alumni Professor Ed Hill CBE Chief Executive of the National Oceanography Centre (NOC) commented:
“As we embark on the United Nations Decade of Ocean science this year, it is an especially fitting time to reflect on the 20 years of magnificent service to marine research, education and training provided by RV Prince Madog and to look forward to the important work yet to be done in the coming decade, - undertaking the science we need for the ocean we want – clean, healthy, safe, productive, predicted and inspiring.”
Head of School, Professor John Turner explained the ship’s role:
“Research and teaching aboard the Prince Madog, the largest research vessel in the UK higher education sector, focusses on the vital coastal seas. These shallower seas are important for fishing, marine renewable energy, recreation and tourism.
The ship is capable of working in strong currents and most weather conditions and was custom built to undertake scientific surveys across the spectrum of marine science, from coastal waters to the shelf edge.”
As well as being used for the University’s own world-leading research, she has also been used by industry, government agencies and other science research groups.
The University works in partnership with the Welsh Government to help ensure that the seas around Wales are clean, healthy, safe, productive and biologically diverse. The Prince Madog is being used to gather data from the seas around Wales. This will assist the Welsh Government to fulfil its marine and fisheries evidence requirements.
As Professor Turner explains:
“Gathering evidence from the seas around Wales is essential in order to maintain good standards in our marine environment. This involves developing appropriate targets, indicators, assessment criteria and monitoring programmes to acquire relevant data.”
Data collected by the Prince Madog has not only guided science and policies of governments, it has also influenced and changed the curriculum of marine science students around the globe.
Professor Paul Spencer, Pro Vice-Chancellor commented:
“The Prince Madog has been an asset to Wales, the UK and internationally, both in education and research. The impact of School of Ocean Sciences research over decades is remarkable. It has changed science in a number of spheres, re-written textbooks and played an important role in supporting the continued sustainable development of the marine environment.
We look forward to many more years of ground-breaking research and impact from the decks of the Prince Madog.”
Some major findings based on data collected from the Prince Madog over the last two decades include:
Safeguarding sustainable fisheries
Research techniques and analysis developed using data from the Prince Madog have been used to assess the impact of trawling on the seabed, and have been applied globally to develop sustainable fisheries.
The Prince Madog has contributed to safeguarding the sustainability of our sea food, from scallop fisheries in the Isle of Man, to demonstrating that mussel cultivation had no negative effects on other species and that it also enhanced populations of oystercatchers
Past marine climates
Techniques using seashells to unpick past marine climate were first developed at Bangor University using samples collected from the Prince Madog in the Irish Sea. This helped to unpick past climate of coastal seas globally. Scientists on-board the research vessel also helped reveal sea-level changes in geological time-scales and locally, including identifying exactly when Anglesey become an island.
Revealing the hidden depths
The installation of the latest high-tech sonar equipment has enabled scientists aboard the Prince Madog to locate and identify shipwrecks. By studying the scouring and movement of the seabed around the shipwrecks, the scientists can advise the marine renewable energy industry on the best locations for siting wind turbines and other seabed structures.
Predicting weather and climate
Measurements made from both Prince Madog research vessels have been key in the development of new techniques for measuring the ocean turbulence which mixes different waters in the ocean.
These techniques and measurements are used globally in validating ocean climate models, used in both weather and climate prediction, and by the Marine Renewable energy industry.
Validating satellite information
Over the past 50 years satellites have revolutionised our view of the ocean by providing ocean wide images of sea surface properties such as sea surface temperature. However for these measurements to be useful they must be ground truthed again direct ocean measurement.
Over the past few decades measurements made from the Prince Madog in the Irish Sea and Clyde Sea have been used to ‘ground truth’ satellite measurements of ocean properties.
See also page 33 https://challenger-society.org.uk/oceanchallenge/2020_24_1.pdf for a more complete 50 year history of both Prince Madog research vessels.
Quotes from alumni:
Professor Ed Hill CBE Chief Executive of the National Oceanography Centre (NOC) (MSc and PhD Physical Oceanography):
“Mars, the Moon, and Venus are mapped in greater detail than the seafloor of our own planet. Independent assessments of the economic value of mapping the seabed around Ireland and Norway showed a return of between £4 and £6 for every pound invested. Surprisingly, only 40% of the UK’s own Exclusive Economic Zone waters are well mapped with modern multi-beam echosounder methods and amongst the many and varied projects the Prince Madog has supported, the vessel has made important contributions to mapping and improving our understanding of habitats on the seafloor in the Irish Sea, especially around Wales.”
Claire Medley, Oceanographic Research Technician at Bermuda Institute of Ocean Sciences (MSc Physical Oceanography 2019):
"I am incredibly grateful for the opportunities that studying at Bangor has afforded me, choosing to do a MSc in physical oceanography is one of the best decisions I've ever made! I am currently working in my dream job as an oceanographic research technician in Bermuda and that would never have been possible without the skills and experience I gained whilst at the School of Ocean Sciences. In particular, getting experience aboard the Prince Madog was certainly key in helping me get where I am today" *PIC in FOLDER
Charlotte Williams, research scientist at the National Oceanography Centre based in Liverpool. (MSc Physical Oceanography):
“Working on the Madog was my first proper experience of being a seagoing ocean scientist (and also from suffering with sea sickness!). I now work for the National Oceanography Centre deploying their fleet of ocean robots from small (and bumpy) vessels, but working on the Madog carrying out seawater sample analysis whilst trying to pin down our equipment is one of my favourite memories of the realities of being an observational oceanographer!” *PIC IN FOLDER
Dr Bee Berx, Physical Oceanographer and Climate Change lead with Marine Science Scotland. (BSc Ocean Science, 2003; MSc, 2004; and PhD Physical Oceanography) said:
“I was lucky to be asked to join the RV Prince Madog while I was spending summer 2003 in Menai Bridge between my BSc and MSc degrees. The trip was to the Celtic Sea and despite being pretty sea-sick at the start, I must have left a good impression as I was asked for a few more trips in the next 12 months. The experiences on each survey were invaluable and gave me a passion for observations collected at sea. I also made connections with the turbulence and mixing research group where I ended up staying for my PhD (they were just like family!). During my PhD, the survey destinations were much less “far-flung” as the Madog was anchored between the Gazelle Hotel and Bangor Pier to collect measurements on the mussel beds.” *PIC IN FOLDER
Dathlu 20 mlynedd o effaith llong y Prince Madog ar wyddoniaeth ac addysg
Mae llong ymchwil sydd wedi chwarae rhan wrth ddarparu bwyd môr cynaliadwy i ni ac sydd wedi newid ein dealltwriaeth o wyddorau’r eigion yn dathlu 20 mlynedd o wasanaeth i wyddoniaeth ac addysg y mis hwn.
Llong Ymchwil Prifysgol Bangor yw’r Prince Madog ac mae’n gyfrwng ymchwil aml-ddefnydd a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer cynnal ymchwil gwyddonol ar hyd morlin Prydain ac ym Môr Iwerddon neu’r Môr Celtaidd. Fe'i defnyddir ar gyfer ymchwil ac i addysgu a hyfforddi gwyddonwyr eigion y dyfodol ym Mhrifysgol Bangor.
Y Prince Madog yw'r unig long ymchwil morwrol yn y Deyrnas Unedig sy’n mynd allan i’r dyfroedd mawr ac sy'n canolbwyntio ar y moroedd 'arfordirol' hanfodol. Y moroedd bas hyn hyd at y silff gyfandirol yw'r rhai y dylanwedir arnynt fwyaf gan weithgarwch dynol - a nhw hefyd yw'r pwysicaf i ni, fel adnodd ar gyfer pysgota ac ynni adnewyddadwy.
Mae'r llong ym Mhrifysgol Bangor wedi chwarae rhan hanfodol wrth addysgu cenedlaethau newydd o wyddonwyr eigion o bob disgyblaeth.
Y llong yw'r ail i ddwyn yr enw yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol – ysgol a sefydlwyd fwy na hanner canrif yn ôl. Hi yw’r unig ysgol un o’i bath yn y Deyrnas Unedig, ac un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.
Dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, yr Athro Ed Hill CBE, sy’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor:
“Wrth i ni gychwyn ar Ddegawd Gwyddorau Eigion y Cenhedloedd Unedig eleni, mae'n amser arbennig o addas i fyfyrio ar yr 20 mlynedd o wasanaeth godidog i ymchwil forol, addysg a hyfforddiant a ddarparwyd gan Long Ymchwil y Prince Madog ac i edrych ymlaen at y gwaith pwysig sydd eto i'w wneud yn y degawd i ddod, - cynnal yr ymchwil gwyddonol sydd ei angen arnom ni ar gyfer y cefnfor yr ydym ni ei eisiau - cefnfor glân, iach, diogel, cynhyrchiol, rhagweladwy ac ysbrydoledig."
Esboniodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro John Turner, swyddogaeth y llong:
“Mae ymchwil ac addysgu ar fwrdd y Prince Madog, y llong ymchwil fwyaf yn sector addysg uwch y Deyrnas Unedig, yn canolbwyntio ar y moroedd arfordirol hanfodol. Mae'r moroedd bas hyn yn bwysig ar gyfer pysgota, ynni adnewyddadwy morol, hamdden a thwristiaeth.
Gall y llong weithio mewn ceryntau cryf a'r rhan fwyaf o amgylchiadau dywydd ac fe'i hadeiladwyd yn arbennig i gynnal arolygon gwyddonol ar draws sbectrwm gwyddorau’r eigion, o ddyfroedd arfordirol i ymyl y silff forol."
Yn ogystal â chael ei defnyddio ar gyfer ymchwil flaenllaw'r Brifysgol ei hun, mae hi hefyd wedi cael ei defnyddio gan fyd ddiwydiant, asiantaethau'r llywodraeth a grwpiau ymchwil gwyddoniaeth eraill.
Mae Prifysgol Bangor yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn amrywiol yn fiolegol. Caiff llong y Prince Madog ei defnyddio i gasglu data o'r moroedd o amgylch Cymru. Bydd hyn yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei gofynion tystiolaeth o ran moroedd a physgodfeydd.
Fel yr eglura'r Athro Turner:
“Mae casglu tystiolaeth o'r moroedd o amgylch Cymru yn hanfodol er mwyn cynnal safonau da ein moroedd. Mae hyn yn cynnwys datblygu targedau, dangosyddion, meini prawf asesu a rhaglenni monitro priodol i sicrhau data perthnasol.”
Mae data a gasglwyd gan y Prince Madog nid yn unig wedi llywio gwyddoniaeth a pholisïau llywodraethau - mae hefyd wedi dylanwadu ar a newid cwricwlwm myfyrwyr gwyddorau’r eigion ledled y byd.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor:
“Mae'r Prince Madog wedi bod yn gaffaeliad i Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ym maes addysg ac ymchwil. Mae effaith ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Eigion dros ddegawdau yn rhyfeddol. Mae wedi newid gwyddoniaeth mewn sawl maes, bu’n sail i ail-ysgrifennu gwerslyfrau ac mae wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad cynaliadwy parhaus y moroedd.
Rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o ymchwil arloesol gan y Prince Madog."
Ymysg y canfyddiadau sylweddol sy’n seiliedig ar ddata a gasglwyd gan y Prince Madog dros y ddau ddegawd diwethaf mae:
Diogelu pysgodfeydd cynaliadwy
Defnyddiwyd technegau ymchwil a dadansoddi a ddatblygwyd gan ddefnyddio data gan y Prince Madog i asesu effaith treillio ar wely'r môr. Cymhwyswyd y technegau hyn yn fyd-eang i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy.
Mae'r Prince Madog wedi cyfrannu at ddiogelu cynaliadwyedd ein bwyd môr, o bysgodfeydd cregyn bylchog yn Ynys Manaw, i ddangos nad oedd ffermio cregyn gleision yn cael unrhyw effeithiau negyddol ar rywogaethau eraill a'i fod hefyd yn gwella poblogaethau wystrys.
Hinsoddau morol y gorffennol
Datblygwyd technegau sy'n defnyddio cregyn y môr i ddadansoddi hinsawdd forol y gorffennol ym Mhrifysgol Bangor gan ddefnyddio samplau a gasglwyd o'r Prince Madog ym Môr Iwerddon. Bu hyn o gymorth i ddehongli hinsawdd moroedd arfordirol yn fyd-eang. Bu gwyddonwyr ar fwrdd y llong ymchwil hefyd o gymorth i ddatgelu newidiadau yn lefel y môr mewn graddfeydd amser daearegol ac yn lleol, gan gynnwys nodi pryd yn union y daeth Ynys Môn yn ynys.
Datgelu'r dyfnderoedd cudd
Mae gosod yr offer sonar uwch-dechnoleg ddiweddaraf wedi galluogi gwyddonwyr ar fwrdd y Prince Madog i leoli ac adnabod llongddrylliadau. Trwy astudio sgwriadau a symudiad gwely'r môr o amgylch y llongddrylliadau, gall y gwyddonwyr gynghori'r diwydiant ynni adnewyddadwy morol ar y lleoliadau gorau ar gyfer lleoli tyrbinau gwynt a strwythurau eraill i’w gosod ar wely'r môr.
Rhagweld tywydd a hinsawdd
Bu mesuriadau a gynhaliwyd o ffwrdd dwy long ymchwil y Prince Madog yn allweddol yn natblygiad technegau newydd ar gyfer mesur tyrfedd y cefnfor sy'n cymysgu gwahanol ddyfroedd yn y cefnfor.
Defnyddir y technegau a'r mesuriadau hyn yn fyd-eang wrth ddilysu modelau hinsawdd cefnforol, a ddefnyddir wrth ragfynegi'r tywydd a'r hinsawdd, a chan y diwydiant ynni adnewyddadwy morol.
Dilysu gwybodaeth loeren
Dros yr hanner canrif diwethaf mae lloerennau wedi chwyldroi ein barn am y cefnfor trwy ddarparu delweddau o briodweddau wyneb cefnforoedd cyfain megis tymheredd yr arwyneb. Fodd bynnag, er mwyn i'r mesuriadau hyn fod yn ddefnyddiol, rhaid eu dilysu eto gyda mesurau uniongyrchol o’r cefnfor.
Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, defnyddiwyd mesuriadau a gymerwyd oddi ar fwrdd y Prince Madog ym Môr Iwerddon a Môr Clud i ddilysu mesuriadau lloeren o briodweddau’r moroedd hynny.
Gweler tudalen 33 hefyd https://challenger-society.org.uk/oceanchallenge/2020_24_1.pdf am hanner canrif o hanes mwy cyflawn dwy long ymchwil y Prince Madog
Dyfyniadau gan gyn-fyfyrwyr:
Yr Athro Ed Hill CBE Prif Weithredwr y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol (MSc a PhD Eigioneg Ffisegol):
“Mae Mercher, y Lleuad, a Gwener yn cael eu mapio'n fanylach na gwely môr ein planed ein hunain. Dangosodd asesiadau annibynnol o werth economaidd mapio gwely'r môr o amgylch Iwerddon a Norwy enillion o rhwng £4 a £6 am bob punt a fuddsoddwyd. Yn rhyfeddol, dim ond 40% o ddyfroedd Parth Economaidd Neilltuedig y Deyrnas Unedig ei hun sydd wedi'u mapio'n dda gyda dulliau atseinydd aml-belydr modern. Ymhlith y prosiectau niferus ac amrywiol y mae'r Prince Madog wedi'u cefnogi, mae'r llong wedi gwneud cyfraniadau pwysig at fapio a gwella ein dealltwriaeth o gynefinoedd ar wely Môr Iwerddon, yn enwedig o amgylch Cymru.”
Claire Medley, Technegydd Ymchwil Eigioneg yn Sefydliad Gwyddorau Eigion Bermuda (MSc Eigioneg Ffisegol 2019):
“Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd y mae astudio ym Mangor wedi’u rhoi imi. Mae dewis gwneud MSc mewn eigioneg ffisegol yn un o’r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud erioed! Ar hyn o bryd rwy'n gweithio yn fy swydd ddelfrydol fel technegydd ymchwil eigioneg yn Bermuda ac ni fyddai hynny erioed wedi bod yn bosibl heb y sgiliau a'r profiad a gefais yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Yn benodol, roedd cael profiad ar fwrdd y Prince Madog yn sicr yn allweddol wrth fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw " *LLUN YN Y FFEIL
Charlotte Williams, gwyddonydd ymchwil yn y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol yn Lerpwl. (MSc Eigioneg Ffisegol):
“Gweithio ar fwrdd y Prince Madog oedd fy mhrofiad cyntaf mewn difrif o fod yn wyddonydd eigion ar y môr (a hefyd o ddioddef gyda salwch môr!). Erbyn hyn, rydw i'n gweithio i'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol yn defnyddio eu fflyd o robotiaid cefnfor, gan eu rhyddhau o longau bach (ac ansad). Mae gweithio ar y Prince Madog yn dadansoddi samplau o ddŵr y môr gan geisio cadw ein hoffer yn llonydd yn un o fy hoff atgofion o wirionedd bod yn eigionegydd arsylwadol! ” *LLUN YN Y FFEIL
Dr Bee Berx, Eigionegydd Ffisegol ac arweinydd Newid Hinsawdd gyda Gwyddor Môr yr Alban. (BSc Ocean Science, 2003; MSc, 2004; a PhD Eigioneg Ffisegol):
“Roeddwn yn ffodus o gael cais i ymuno â Llong Ymchwil y Prince Madog tra roeddwn yn treulio haf 2003 ym Mhorthaethwy rhwng fy ngraddau BSc ac MSc. Roedd y daith i'r Môr Celtaidd ac er fy mod yn dioddef salwch môr ar y dechrau, mae'n rhaid fy mod wedi gwneud argraff dda gan y gofynnwyd imi a hoffwn i fynd ar ambell daith arall yn ystod y 12 mis nesaf. Roedd y profiadau ar bob arolwg yn amhrisiadwy a bu iddyn nhw feithrin angerdd ynof am arsylwadau a gasglwyd ar y môr. Fe wnes i hefyd gysylltiadau â'r grŵp ymchwil tyrfedd a chymysgu lle arhosais i wneud fy noethuriaeth (roeddent yn union fel teulu!). Yn ystod fy noethuriaeth, roedd cyrchfannau’r arolwg yn llawer llai “pellennig” gan fod y Prince Madog wedi’i angori rhwng Gwesty’r Gazelle a Phier Bangor i gasglu mesuriadau ar y gwelyau cregyn gleision.” *LLUN YN Y FFEIL
Contacts